Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn dosbarthu grantiau i bobl Cymru, yn ôl dymuniadau Syr D J James, sylfaenydd yr Ymddiriedolaeth. Yn ystod 2022-23, talodd yr Ymddiriedolaeth gyfanswm o 514,631 o grantiau o dan y penawdau canlynol:
Adeiladau Crefyddol | £90,000 |
Offer ac Adnoddau i Eglwysi | £12,250 |
Pwrpasau Addysgiadol (Myfyrwyr Uwchraddedig) | £304,374 |
Eisteddfodau | £ 83,507 |
Urdd Gobaith Cymru | £ 24,500 |
£514,631 |
Cyfanswm y derbyniadau yn ystod 2022-23 oedd £588,105. Daw'r rhan helaethaf o incwm blynyddol yr Ymddiriedolaeth o gronfa gwaddol parhaol a adolygir yn rheolaidd; gan ei bod yn gronfa gwaddol parhaol, nid yw ar gael i’w dosbarthu ar gyfer buddiolwyr. Mae'r Gronfa hon yn cynnwys amrywiaeth o ddaliadau a chyfranddaliadau, stociau llogau sefydlog, eiddo ac arian. Yn dilyn cytundeb gyda’r Rheolwyr Buddsoddi mae'r Ymddiriedolwyr yn dilyn nifer o egwyddorion buddsoddi gan weithio ar amserlen o leiaf saith mlynedd a lle mae'r risg yn ganolig. Gwerth y Gronfa hon ar ddiwedd Mawrth 2023 oedd £16,114,255.
Mae copi o Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolaeth ar gael i'w lawrlwytho yma
neu gellir cael copi o Swyddfa'r Ymddiriedolaeth.